Egluro jargon band eang
Gall band eang fod yn ddryslyd.
Mae'r canllaw hwn yn esbonio ychydig o'r jargon y gallech chi ei ddarllen neu ei glywed wrth ymchwilio pecynnau band eang.
Dyma hyd y contract yr ydych yn ymrwymo iddo ar y dechrau. Ar gyfer band eang, 18 mis yw hyn yn aml.
Uned yw hon a welwch yn cael ei disgrifio fel ‘megabitiau yr eiliad’. Mae’n help ichi ddweud pa mor gyflym yw eich band eang.
Yn debyg i megabitiau, mae’n cynrychioli 1,000 megabit.
Ystyr hyn yw pan fydd eich band eang yn lawrlwytho ychydig eiliadau cyntaf fideo neu raglen deledu rydych yn ei gwylio ar-lein, fel eich bod yn gallu gwylio heb lawrlwytho’r cyfan yn gyntaf. Os oes gennych fand eang arafach, rydych yn debygol o weld eich cysylltiad yn byffro yn hirach neu’n amlach.
Dyma fand eang sy'n gallu darparu 30 Mbit yr eiliad o leiaf -mae ar gael i 97% o eiddo yn y DU.
Band eang sy’n gallu darparu cyflymderau o 30 Mbit yr eiliad o leiaf – mae ar gael i 93% o'r eiddo yn y DU.
Band eang sy’n gallu darparu cyflymderau o 300 Mbit yr eiliad o leiaf – mae ar gael i 48% o'r eiddo yn y DU.
Dyma’r dechnoleg band eang ddiweddaraf. Mae’n defnyddio ceblau ffeibr optig yr holl ffordd i’ch cartref, nid dim ond i’r cabinet ar eich stryd. Mae’n llawer mwy dibynadwy a chyflymach na mathau eraill o fand eang ac ar hyn o bryd mae ar gael i 5% o’r eiddo yn y DU.
Dyma pan fyddwch yn gwylio’r teledu a ffilmiau neu’n gwrando ar gerddoriaeth ar-lein mewn 'amser real’, yn hytrach na’u lawrlwytho i ddyfais yn gyntaf. Gwasanaethau ffrydio yw gwasanaethau fel Netflix, Amazon Prime a Spotify.
Mae hwn yn plygio i soced y ffôn ac yn caniatáu ichi ddefnyddio dyfeisiau fel cyfrifiadur llechen a gliniadur yn ddi-wifr drwy wifi
Mae’r dechnoleg hon yn caniatáu ichi gysylltu dyfeisiau fel cyfrifiaduron llechen, gliniaduron a ffonau clyfar â’ch band eang yn ddi-wifr.
Yr hyn sy’n cael ei drosglwyddo rhwng eich dyfais a’r rhyngrwyd i ganiatáu ichi ddefnyddio gwefannau a gwasanaethau ar-lein eraill. Mae pori sylfaenol ar-lein yn defnyddio llai o ddata na phethau fel chwarae fideos.
